NEWYDDION
Mae’r cynllun egin dalent a lansiodd yrfaoedd Craig Roberts ac Euros Lyn fel cyfarwyddwyr ffilmiau nodwedd, yn dod yn ei ôl am yr ail dro. Unwaith eto bydd Ffilm Cymru Wales yn gweithio gyda chyd-sefydlwyr Sefydliad Ffilm Prydain ac S4C, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision.
Mae Cinematic yn cynhyrchu tair ffilm gan gyfarwyddwyr o Gymru yn arddangos apêl greadigol, potensial masnachol ac sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae’r cynllun yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm sydd â lleisiau beiddgar ac unigryw trwy hyfforddiant, datblygu ac ariannu dwys. Helpodd rownd gyntaf y cynllun i lansio gyrfa cyfarwyddo seren Submarine Craig Roberts gyda Just Jim, drama gomedi dywyll gyda'r seren Emile Hirsch a gafodd ei ddangos gyntaf yn SXSW yn 2015. Erbyn hyn, mae'n datblygu'i ail ffilm nodwedd fel ysgrifennwr-gyfarwyddwr In My Oils, sy’n cael ei chynhyrchu gan Pip Broughton ac Adrian Bate o Vox Pictures ac yn cael ei ariannu ar y cyd gan Ffilm Cymru Wales a Sefydliad Ffilm Prydain. Yn y cyfamser, mae’r ail ffilm Cinematic, ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow The Lighthouse, yn cael ei rhyddhau ar hyn o bryd trwy Soda Pictures. Yn adnabyddus am ei waith ar y llwyddiannau teledu Broadchurch, Happy Valley a Daredevil gan Marvel, gwnaeth y cyfarwyddwr Euros Lyn ei ffilm nodwedd gyntaf Y Llyfrgell / The Library Suicides gyda chefnogaeth Cinematic. Wedi’i addasu o nofel Fflur Dafydd, mae’r nofel Gymraeg gyffrous yn sôn am efeilliaid o chwiorydd sy’n gosod magl farwol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddal llofrudd eu mam. Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Nghŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin yn gynharach eleni ac enillodd actores y prif ran, Catrin Stewart (Doctor Who), wobr am y Perfformiad Gorau mewn Ffilm Nodwedd Brydeinig am ei phortread ddeuol o Ana a Nan. Bydd Y Llyfrgell / The Library Suicides yn cael ei rhyddhau i ddetholiad o sinemâu gwledydd Prydain ar 5 Awst trwy Soda Pictures. Yn dilyn y rhyddhad theatrig, bydd partneriaid cynhyrchu S4C yn darlledu’r ffilm y flwyddyn nesaf. Mae rownd nesaf Cinematic ar agor o 4 Awst a 30 Medi yw'r terfyn amser am geisiadau. Bydd y cynllun yn cefnogi datblygu 10 prosiect a’u timoedd, yn ogystal ag ymrwymo arian i gynhyrchu a pharatoi tair o’r ffilmiau ar gyfer y farchnad.
0 Comments
Leave a Reply. |