NEWYDDION
Mae prosiectau ffilm nodwedd gan dri thîm o egin dalent Cymru wedi’u dewis i symud ymlaen i’w cynhyrchu trwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales.
Llongyfarchiadau i’r timoedd sydd wedi’u dewis. Yn ôl Adam Partridge o Ffilm Cymru Wales mae’n 'eithriadol o anodd dewis dim ond tair ffilm o gnwd o brosiectau o ansawdd mor dda, ond mae'r rhai sydd wedi'u dewis yn adlewyrchu'r gwahanol a’r amrywiol leisiau a gweledigaethau sydd gan ddoniau Cymru i'w cynnig. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y bydd pawb a oedd â rhan yn y ffilmau yn symud ar hyd y llwybrau disglair sydd o’u blaen.” Ddrama gyffrous, oruwchnaturiol, yw Nuclear a’r ffilm nodwedd gyntaf i Catherine Linstrum, yr ysgrifennwr-gyfarwyddwr, ei chyfarwyddo. Mewn pentref fechan o dan gysgod gorsaf niwclear, mae teulu gwenwynig gyda gorffennol tanllyd yn gorfod wynebu’r ysbrydion sy’n bygwth eu dyfodol. Mae Linstrum, sydd hefyd wedi ysgrifennu Dreaming of Joseph Lees a California Dreamin’, wedi ysgrifennu’r sgript ar y cyd gyda David John Newman, a bydd Stella Nwimo yn ei chynhyrchu. Bu’r tri yn cydweithio ar y ffilm fer Things That Fall from the Sky, lle’r oedd Ophelia Lovibond a Steve Waddington yn sêr, trwy gynllun Beacons BFI NETWORK Wales. Mae Cadi (Gwrach, gynt), ffilm arswyd gyfoes, Gymraeg, wedi’i gosod yn nhirlun hardd ond creulon Eryri, ynghylch merch ifanc yn dychwelyd adref o dan amgylchiadau dirgel. Wedi’i chynhyrchu gan Roger Williams o’r cwmni cynhyrchu Joio, ei hysgrifennu gan Siwan Jones a’i chynhyrchu gan Lee Haven Jones, Cadi fydd ffilm nodwedd gyntaf y tîm hwn, sydd â phrofiad eang o deledu drwy’r Gymraeg, gan gynnwys Alys, Tir a 35 Diwrnod. Drama gomedi, gyffrous, ddu ynghylch casglwr tollau unig y mae ei orffennol yn brysur ei erlid yw The Toll. Wedi’i hysgrifennu gan Matt Redd, o Talent Lab, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, bydd yn cael ei chyfarwyddo gan Ryan Hooper a gafodd ei enwebu am BAFTA Cymru. Y cynhyrchydd, Vaughan Sivell (Third Star), yw sefydlydd Western Edge Pictures, y mae’i lwyddiannau diweddar yn cynnwys ffilm arswyd Alice Lowe, Prevenge, sydd wedi cael clod mawr gan y beirniaid. Bydd y gwaith cyn cynhyrchu’n dechrau ar y tri phrosiect ar unwaith, a’r prif waith ffilmio yn dechrau'n ddiweddarach eleni. Ail ran cynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales fydd cynhyrchu tair ffilm gan wneuthurwyr Ffilm Cymru sy’n datblygu ac sydd â lleisiau cryf ac unigryw, sy’n dangos apêl greadigol a photensial masnachol sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae’n cael ei ariannu mewn partneriaeth gyda’r BFI, gan ddefnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol ac S4C a hefyd gefnogaeth ychwanegol oddi wrth Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision. Llwyddodd deg tîm o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru i gyrraedd rhestr fer y cynllun ffilm nodwedd fis Rhagfyr 2016, cyn dechrau ar gyfnod o ddatblygu a hyfforddi dwys. Gyda chefnogaeth Creative Skillset, roedd yr hyfforddiant yn archwilio modelau dosbarthu arloesol, datblygu cynulleidfa, cynaliadwyedd amgylcheddol a gwneud y gorau o eiddo deallusol trwy dull Magnifier Ffilm Cymru Wales. Cafodd gwneuthurwyr y ffilmiau eu cysylltu gyda mentoriaid arbenigol gan gynnwys Billy O’Brien (I Am Not a Serial Killer), Dan Mazer (Borat, Brüno), a Samantha Taylor (Tom of Finland, Return to Montauk). Mae Sinematig yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau ar adeg dyngedfennol yn eu gyrfaoedd ac rydym yn hyderus y bydd y timau y tu ôl i’r tri phrosiect cyffrous hyn yn ffynnu.” Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C; "Mae'n wych for awduron a chynhyrchwyr talentog yn cael cyfle i feithrin a datblygu eu sgiliau gyda chefnogaeth cynllun Cinematic, ac mae S4C yn falch iawn o fod yn rhan ohono unwaith eto. Yn barod, ry’ ni wedi mwynhau ffilmiau o safon ragorol, sydd wedi plesio gwylwyr a'r beirniaid, ac mae'r disgwyliadau'n uchel iawn ar gyfer y tair stori nesaf.” Mae’r ffilmiau sydd wedi’u cynhyrchu o’r blaen trwy Sinematig yn cynnwys Just Jim, y ffilm gyntaf i Craig Roberts ei chyfarwyddo, addasiad arobryn Euros Lyn o nofel Gymraeg Fflur Dafydd Y Llyfrgell / The Library Suicides a The Lighthouse, ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow.
0 Comments
Mae deg tîm o awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru wedi eu cynnwys ar restr fer cynllun ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales, a ariennir mewn partneriaeth â’r BFI a S4C, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision.
Mae’r llechen yn dangos bod amrywiaeth o dalent yn cael cefnogaeth, yn ogystal ag ystod eang o straeon ac arddulliau. Meddai cynrychiolydd Ffilm Cymru Wales, Adam Partridge; “Mae’n galonogol iawn gweld fod y dalent yng Nghymru mor amrywiol, a’n bod yn medru cefnogi amrediad eang o leisiau a sawl persbectif gwahanol. Mae genres y prosiectau amrywiol yn cynnwys comedi ddoniol, ffilm arswyd aruchel, a hyd yn oed opera ar ffilm. ‘Rydym yn gobeithio fod yma rhywbeth i bawb!” Y prosiectau a’r timau sydd wedi eu dewis yw: Crazy Bitch Cyfarwyddwr: Prano Bailey-Bond Awdur: Emma Millions Cynhyrchydd: Helen Jones Mae menyw yn darganfod ei bod am gael babi, ac mae’r beichiogrwydd annisgwyl yn esgor ar atgofion hunllefus am fywyd arall ers talwm, ddaeth i ben mewn modd dychrynllyd dan ddwylo meddygon seiciatryddol. Gwrach Cyfarwyddwr: Lee Haven Jones Awdur: Siwan Jones Cynhyrchydd: Roger Williams Mae menyw ifanc ryfedd yn codi ofn ar ei chyd-weithwyr mewn archfarchnad, yn y ffilm arswyd Gymraeg yma am rym natur. Han’s Dynasty Awdur-Gyfarwyddwr: Guymon Cheung Yma mae bywydau tra gwahanol yn gwrthdaro mewn straeon am hil, colled a dialedd. Lavish Awdur-Gyfarwyddwr: Margaret Constantas Cyfansoddwr: Judith Weir Cynhyrchwyr: Margaret Constantas a Philip Cowan Opera sinematig sy’n cynnwys tair chwedl alegorïaidd wedi eu lleoli yn y Gaerdydd gyfoes. Not a True Story Awdur-Gyfarwyddwr: Ozgur Uyanik Cynhyrchwyr: Gareth I. Davies ac Ozgur Uyanik Wedi cyhoeddi drama danllyd yn ei famwlad, mae bywyd dramodydd enwog o Dwrci, sydd wedi alltudio’i hun i gefn gwlad Cymru, yn dadfeilio o ganlyniad i baranoia, ac felly’n esgor ar frwydr enbyd i oroesi. Nuclear Cyfarwyddwr: Catherine Linstrum Awduron: Catherine Linstrum a David John Newman Cynhyrchydd: Stella Nwimo Mewn pentref bach yng nghysgod gorsaf ynni niwclear, mae mam a’i merch ifanc yn chwilio am loches rhag ymosodiad erchyll, ond mae’r lloches fach yn llawn ysbrydion sy’n bygwth eu dinistrio o’r tu mewn. The Promise Cyfarwyddwr: Gareth Bryn Awdur: Caryl Lewis Cynhyrchwyr: Ed Talfan a Mark Andrew Mae merch ifanc yn byw bywyd anodd a llwm mewn cymuned Gymreig unig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Gan nad yw Duw’n gwrando arni, mae’n troi ei sylw at y Diafol. Sorted Awdur-Gyfarwyddwr: Keri Collins Cynhyrchydd: Sarah Brocklehurst Yn y ffilm gomedi hon mae dwy fenyw ifanc yn ceisio talu’r dyledion sydd ganddynt wedi bod yn y coleg, ac un diwrnod, wrth weithio am isafswm cyflog mewn swyddfa sy’n didoli’r post, daw cyfle euraidd i’w rhan wrth iddynt ddarganfod parsel llawn gynau, a ffotograff damniol o wleidydd lleol. Take Me Home Cynhyrchydd: Rik Hall Mae menyw’n darganfod corff dyn o’r blaned Mawrth, wedi ei rewi, yn ei seler, ac yn cychwyn ar daith i fynd ag ef yn ôl i’w gartref. The Toll Cyfarwyddwr: Ryan Hooper Awdur: Matt Redd Cynhyrchydd: Tom Betts Ffilm arswyd ddoniol am ddyn unig sy’n gweithio mewn tollborth - ac mae ei orffennol yn prysur ddal i fyny ag ef. Bydd y timoedd ‘nawr yn symud ymlaen i’r cyfnod datblygu, sy’n cynnwys derbyn hyfforddiant a gefnogir gan gyngor sgiliau’r sector, Creative Skillset, ac a arweinir gan yr hyrwyddwr profiadol, Angus Finney, sy’n rheoli’r Farchnad Arian Cynhyrchu a’r ‘Micromarkets’ blynyddol yn Llundain. Bydd yn canolbwyntio’n arbennig ar ddatblygiad creadigol y gwaith, a hefyd ar ystyried yn ofalus pa gyfleoedd fydd ar gael i’r prosiectau yn y farchnad. Mae’r hyfforddwyr yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr sy’n gweithio yn y diwydiant, gan gynnwys y cynhyrchwyr profiadol Julie Baines (Creep, Triangle) ac Emily Leo (Under the Shadow); y cyfarwyddwr Ben Parker (The Chamber, OTM Entertainment); a chynrychiolwyr o’r byd gwerthu a dosbarthu Jezz Vernon (Port Royal London, cynt o Metrodome), a Deborah Rowland (We are the Tonic). Meddai uwch swyddog y BFI, Mary Burke; “Mae’r BFI yn falch i barhau i gefnogi talent gref o Gymru drwy Cinematic, ac yn edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiectau’n datblygu yn ystod y cyfnod hwn.” Ychwanegodd Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd; “Mae S4C yn falch iawn o’r ffilmiau a ddaeth i’r golwg yn sgil cynllun cyntaf Cinematig, ac yn awr yn hynod gyffrous cael bod yn rhan o’r ail gylch yma. Mae Cinematic yn gyfle i dalentau ddod i’r amlwg ym myd ffilm, ac ‘rwy’n gwbl hyderus y byddwn yn parhau i ddatblygu partneriaethau ysgrifennu gyda thalent newydd a thalent sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag annog awduron mwy profiadol i gamu i fyd ffilm am y tro cyntaf. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld y canlyniadau." Bydd rhaglen Cinematic yn dod i ben wrth i dair ffilm gael eu dewis, eu datblygu a’u cynhyrchu. Ond fel y dywed Partridge; “Mae’r cynllun yn cynhyrchu rhywbeth llawer mwy gwerthfawr na thair ffilm orffenedig yn unig – wrth i ni geisio datblygu perthnasau a dulliau o weithio ar draws y gronfa dalent.” Mae rhai o’r ffilmiau blaenorol a gynhyrchwyd drwy Cinematic yn cynnwys y ffilm gyntaf i Craig Roberts ei chyfarwyddo, Just Jim; addasiad Euros Lyn o nofel Gymraeg Fflur Dafydd, Y Llyfrgell / The Library Suicides; a ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow, The Lighthouse. Mae’r cynllun egin dalent a lansiodd yrfaoedd Craig Roberts ac Euros Lyn fel cyfarwyddwyr ffilmiau nodwedd, yn dod yn ei ôl am yr ail dro. Unwaith eto bydd Ffilm Cymru Wales yn gweithio gyda chyd-sefydlwyr Sefydliad Ffilm Prydain ac S4C, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision.
Mae Cinematic yn cynhyrchu tair ffilm gan gyfarwyddwyr o Gymru yn arddangos apêl greadigol, potensial masnachol ac sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae’r cynllun yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm sydd â lleisiau beiddgar ac unigryw trwy hyfforddiant, datblygu ac ariannu dwys. Helpodd rownd gyntaf y cynllun i lansio gyrfa cyfarwyddo seren Submarine Craig Roberts gyda Just Jim, drama gomedi dywyll gyda'r seren Emile Hirsch a gafodd ei ddangos gyntaf yn SXSW yn 2015. Erbyn hyn, mae'n datblygu'i ail ffilm nodwedd fel ysgrifennwr-gyfarwyddwr In My Oils, sy’n cael ei chynhyrchu gan Pip Broughton ac Adrian Bate o Vox Pictures ac yn cael ei ariannu ar y cyd gan Ffilm Cymru Wales a Sefydliad Ffilm Prydain. Yn y cyfamser, mae’r ail ffilm Cinematic, ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow The Lighthouse, yn cael ei rhyddhau ar hyn o bryd trwy Soda Pictures. Yn adnabyddus am ei waith ar y llwyddiannau teledu Broadchurch, Happy Valley a Daredevil gan Marvel, gwnaeth y cyfarwyddwr Euros Lyn ei ffilm nodwedd gyntaf Y Llyfrgell / The Library Suicides gyda chefnogaeth Cinematic. Wedi’i addasu o nofel Fflur Dafydd, mae’r nofel Gymraeg gyffrous yn sôn am efeilliaid o chwiorydd sy’n gosod magl farwol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddal llofrudd eu mam. Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Nghŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin yn gynharach eleni ac enillodd actores y prif ran, Catrin Stewart (Doctor Who), wobr am y Perfformiad Gorau mewn Ffilm Nodwedd Brydeinig am ei phortread ddeuol o Ana a Nan. Bydd Y Llyfrgell / The Library Suicides yn cael ei rhyddhau i ddetholiad o sinemâu gwledydd Prydain ar 5 Awst trwy Soda Pictures. Yn dilyn y rhyddhad theatrig, bydd partneriaid cynhyrchu S4C yn darlledu’r ffilm y flwyddyn nesaf. Mae rownd nesaf Cinematic ar agor o 4 Awst a 30 Medi yw'r terfyn amser am geisiadau. Bydd y cynllun yn cefnogi datblygu 10 prosiect a’u timoedd, yn ogystal ag ymrwymo arian i gynhyrchu a pharatoi tair o’r ffilmiau ar gyfer y farchnad. |